Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Gorffennaf 2019
Amser:
09.33 -
11.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5494
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Helen Mary Jones AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Steve Curry, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig) Robert Chadwick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Abigail Harris, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
2.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu:
· manylion am sawl gwaith y bu'n rhaid i wasanaethau y tu allan i oriau weithredu ar raddfa lai
· yr amseroedd aros presennol ar gyfer y targed o 48 awr ar gyfer mynediad CAMHS brys a'r hyn sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael yr asesiad cyntaf hwnnw - am faint maent yn aros am unrhyw ymyriadau therapiwtig
· pa wasanaethau fydd y gwasanaeth hunaniaeth rywedd yng Nghaerdydd a'r Fro yn eu darparu
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 11 Gorffennaf 2019 ar gyfer eitem 1.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.